Cyw – Y Fferm

Am Ddim
Cyw – Y Fferm
Claim Listing

Description

Mae’r anifeiliaid yn mwynhau gweithio ar y fferm wrth roi help llaw i’r ffarmwr. Pawb, hynny yw, heblaw Llew.
‘Does gan Llew ddim syniad sut i helpu pawb gyda’u gwaith , a mae’n creu mwy o drafferth i bawb wrth drio helpu. Dewch i helpu Cyw a’r criw, a Llew ddod o hyd i waith arbennig iddo fe ar y fferm.

Mae’r stori ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda throslais ac amlygu testun. Mae gêm i’w chwarae wrth ddarllen, sef dod o hyd i ddeg hadyn, un ar bob tudalen. Bydd rhain yn agor gêm arbennig gyda chwe gem llai i’w chwarae hefyd.

Mae eich barn yn bwysig, felly cysylltwch â ni neu gadewch eich sylwadau.

Am fwy o wybodaeth, ebostiwch: tifiacyw@cubeinteractive.co.uk

 

Address & Contact Details

Available Platforms



Contact Owner