Newid eich dyfais i’r Gymraeg

Newid y gosodiadau ar eich dyfais iOS i’r Gymraeg

I newid y gosodiadau ar eich iPhone, iPad neu iPod touch i’r Gymraeg:

  1. Dewiswch ap Settings ar eich sgrin hafan
  2. Yna tarwch General > Language & Region.
  3. Tarwch Add Language…, dewiswch ‘Cymraeg’
  4. Yna tarwch Done

Bydd unrhyw apiau sydd eisoes wedi cael eu cyfieithu i’r Gymraeg yn awr yn agor yn Gymraeg.

Mae angen iOS 8 neu fersiwn diweddarach